Gwlad yw'r nef o swn gofidiau, Gwlad o ryfeddodau'n llawn, Gwlad lle mae fy hen gyfeillion Heddyw'n gwledda'n hyfryd iawn; Gwlad o gyrhaedd llid gelynion, Gwlad a chalon pawb mewn hwyl, Gwlad mae f'enaid am fod ynddi Gyda'r Iesu'n cadw gwyl. Yno caf fi ddechreu hanes, Hanes o lawenydd pur, Fyth na chlywir diwedd arno Yn y baradwysaidd dir; Bob munudyn bydd yn dechreu Seinio'i maes heb dewi son, Ddoniau maith, anfeidrol hyfryd, Croeshoeliedig addfwyn Oen. Ffown i'r wlad odidog odiaeth, Mawl am obaith myn'd i hon; Ffarwel bellach bob eilunod, Pleser pechod oll o'r bron; Oll diangwn tua'r noddfa Gafwyd trwy'r Messia mâd; O am gyrhaedd yn ddihangol Hardd drigfanau'r nefol wlad.William Williams 1717-91 Tôn [8787D]: Lugano (Catholic Hymn Tunes 1849) gwelir: Gwlad yw'r nefoedd heb gymmysgedd Minau bryfyn gwael o'r ddaear 'Rwy'n dy garu addfwyn Iesu 'Rwy'n dy garu ddweda'i chwaneg? |
Heaven is a land away from the sound of griefs, A land full of wonders, A land where my old friends are Today feasting very delightfully; A land out of the reach of the wrath of enemies, A land with everyone's heart in good spirits, A land my soul wants to be in With Jesus keeping festival. There I may get to begin my story, A story of pure joy, The end of which is never to be heard In the paradisiacal land; Every minute shall be beginning Sounding out without falling silent, Vast, immeasurably delightful gifts, Of the dear, crucified Lamb. Let us flee to the land of exquisite superiority, Praise for the hope of going to this; Farewell henceforth all idols, Absolutely all the pleasure of sin; Let us all escape towards the refuge Got through the worthy Messiah; O to reach safely The beautiful dwellings of the heavenly land.tr. 2019 Richard B Gillion |
|